Cofnodion Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar PCS, a chyfarfod busnes a gynhaliwyd yn Nhŷ Hywel, ddydd Mawrth 12 Ionawr 2016

Yn bresennol: Julie Morgan AC (Cadeirydd); Bethan Jenkins AC (is-gadeirydd); Helen West, Swyddfa Julie Morgan AC; Ioan Bellin, Swyddfa Simon Thomas AC; Marianne Owens (PCS); Shavanah Taj (PCS); Darren Williams (PCS).

 

1. Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

(a) Ethol cadeirydd ac is-gadeirydd:  Cafodd Julie Morgan ei hail-ethol yn gadeirydd, ac etholwyd Bethan Jenkins yn is-gadeirydd, yn lle Rhodri Glyn Thomas.

 

(b) Adroddiad blynyddol:  Ers y cyfarfod cyffredinol blynyddol blaenorol ym mis Medi 2014, mae’r Grŵp wedi cyfarfod ddwywaith, ym mis Ebrill a mis Tachwedd 2015, ac mae wedi cyfarfod unwaith â’r cadeirydd ynghylch Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu. Yn ogystal, roedd aelodau’r Grŵp wedi cefnogi aelodau’r PCS mewn amryw o ymgyrchoedd ac anghydfodau - yn fwyaf nodedig, yr anghydfod ynghylch cyflogau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bu rali yn y Senedd ar 20 Hydref i gefnogi’r anghydfod yn yr Amgueddfa, lle'r oedd Julie Morgan, Bethan Jenkins a Lynn Neagle ill tair wedi siarad. 

 

(c) Ailgofrestru’r grŵp: Llofnododd yr Aelodau hynny a oedd yn bresennol y cofrestriad a ddarparwyd  gan y Swyddfa Gyflwyno, a chytunodd swyddfa Julie Morgan i gael y llofnodion ychwanegol angenrheidiol er mwyn i’r grŵp ail-gofrestru.

 

(d) Cynlluniau ar gyfer 2016/17: Nodwyd bod y PCS yn wynebu blwyddyn heriol, gyda rhagor o doriadau ar raddfa fawr o ran swyddi i’w disgwyl yn dilyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a deddfwriaeth, fel y Bil Undebau Llafur, os daw’n gyfraith, yn debygol o wneud gwaith yr Undeb yn fwy anodd. Roedd yn debygol y byddai angen cymorth y Grŵp yn fwy nag erioed felly.

 

2. Cyllid a Thollau EM – cynigion ar gyfer cau rhagor o swyddfeydd yng Nghymru

Dywedodd Undeb y PCS bod Cyllid a Thollau EM wedi cyhoeddi dogfen o’r enw Adeiladu ein Dyfodol ar 12 Tachwedd,  sy’n cynnwys cynlluniau ar gyfer lleihau ei rwydwaith o 160 o swyddfeydd  i 13 o ‘ganolfannau rhanbarthol’ mawr a 4 ‘safle arbenigol’, ynghyd â gostyngiad o 25% yn y lefelau staffio. Yng Nghymru, byddai swyddfeydd presennol Wrecsam, Abertawe, Porthmadog a Chaerdydd (Llanisien) yn cau, a byddai swyddfa newydd yn agor yng nghanol Dinas Caerdydd. Roedd cynlluniau’r adran yn awgrymu y byddai cynnydd net mewn swyddi yng Nghymru ond roedd yr Undeb yn bryderus ynghylch lleoliad y swyddi hynny a’r goblygiadau ar gyfer staff presennol a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Byddai disgwyl i staff Abertawe sy’n dymuno parhau i weithio i’r Adran drosglwyddo i Gaerdydd ac i staff Wrecsam drosglwyddo i Lerpwl. 

 

Mae’r PCS yn credu nad y flaenoriaeth o ran y ffordd orau o gasglu trethi sy’n gyfrifol am y camau hyn, ond yr angen i fodloni targedau toriadau gwariant a nodwyd yn yr Adolygiad o Wariant 2015 a materion sy’n deillio o fethiant i adnewyddu contract Menter Cyllid Preifat gyda chwmni preifat o’r enw Mapeley yn 2001, pan brynodd Mapeley 147 eiddo rhydd-ddaliad a 454 eiddo lesddaliad gan Gyllid a Thollau EM ar gytundeb  gwerthu ac adlesu 20 mlynedd. Mae’r PCS yn credu bod angen oedi o ran y cynigion a geir yn Adeiladu ein Dyfodol, i ganiatáu ar gyfer gwaith craffu seneddol a chyhoeddus llawn, ar gyfer cynnal asesiad gan Swyddfa Archwilio Cymru o gostau llawn y cynigion, ac o effaith y cau ar allu ac effeithiolrwydd Cyllid a Thollau EM i gasglu trethi ac i orfodi cydymffurfiaeth.

 

Yng Nghymru, ymddengys hefyd bod y cynigion yn debygol o fod â goblygiadau ar gyfer sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru ac mae’r Undeb wedi trefnu i gwrdd â Jane Hutt ar 10 Chwefror. Roedd y Grŵp yn ei chael yn anodd gweld sut y byddai adeiladu swyddfa newydd yng nghanol Dinas Caerdydd yn arwain at arbediad ariannol, ac roedd hefyd yn pryderu ynghylch y pwysau ychwanegol a fyddai o ran traffig a pharcio yng Nghaerdydd. Byddai cau swyddfa Porthmadog, ble y mae Uned yr iaith Gymraeg wedi’i lleoli, hefyd mae’n ymddangos y bydd yn debygol o olygu canlyniadau negyddol ar gyfer darpariaeth iaith Gymraeg Cyllid a Thollau EM.

 

Camau i’w cymryd: Y PCS i ddrafftio cwestiynau’r Cynulliad ar gyfer aelodau’r Grŵp i’w gofyn ynghylch goblygiadau cau’r swyddfeydd ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru, yr iaith Gymraeg a materion eraill; hefyd ysgrifennu llythyrau at David Gauke, y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyllid a Thollau EM yn y DU, ac i Jane Hutt, y Gweinidog sy’n gyfrifol am drethi yng Nghymru.

 

3. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghydfod ynghylch cyflogau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru:

Dywedodd Undeb y PCS, yn dilyn cyd-drafodaethau hir ag ACAS, roedd y PCS wedi cytuno, ar 18 Rhagfyr, i gynnal pleidlais i’r aelodau yn Amgueddfa Cymru ar gynnig gan y rheolwyr, a oedd yn cynnwys taliad i ddigolledu aelodau am gael gwared ar y taliadau premiwm – sef, achos yr anghydfod hirfaith. Mewn datblygiad funud olaf, fodd bynnag, roedd rheolwyr wedi nodi cyn cychwyn y bleidlais, os digwydd y ceir pleidlais ‘na’ y byddent yn dychwelyd at ‘ymgynghoriad unigol’ o ran y staff, a oedd yn sail i’w cynnig blaenorol. Mae’r Undeb yn ystyried bod hyn yn torri’r cytundeb y daethpwyd iddo ym mis Rhagfyr, ac roedd wedi nodi protest ffurfiol am y cam hwn.

Cam i’w gymryd: Briff gwylio

 

4. Goblygiadau Cyllideb Cymru ar gyfer cyrff datganoledig

Roedd Cyllideb Ddrafft Cymru ym mis Rhagfyr yn cynnwys 5% o doriadau o leiaf yn y gyllideb ar gyfer Cyrff a Noddir,  ac yn sylweddol uwch mewn cwpl o achosion. Mae’n rhy gynnar i fod yn sicr ynghylch y canlyniadau diwydiannol, ond byddwn yn monitro’r effaith ar staffio a darparu’r gwasanaethau y mae’r cyrff hyn yn gyfrifol amdanynt, ac yn ceisio cymorth pan fydd angen.

Camau i’w cymryd: Briff gwylio

 

5. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr anghydfod ynghylch diogelwch ar y ffordd yn yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA)

Roedd aelodau’r Undeb, sy’n gweithio fel arholwyr gyrru yn yr Asiantaeth (DVSA), wedi streicio am bedwar diwrnod ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, i wrthwynebu cynlluniau rheolwyr i ymestyn y diwrnod gwaith ac i gynyddu nifer y profion gyrru y byddai disgwyl i’r arholwyr eu cynnal. Roedd yr Undeb yn credu y gallai’r cam fod yn groes i ddeddfwriaeth, o ran cynnal elfennau o’r prawf mewn "golau dydd da", gan  y byddai’n amhosibl cynnal pob prawf yn ystod oriau golau dydd yn y gaeaf. Roedd trafodaethau wedi dechrau ag ACAS am y problemau o dan sylw ar 16 Rhagfyr.

Camau i’w cymryd: Dim

 

6. Y Gofrestrfa Tir: bygythiad newydd o ran preifateiddio

Dywedodd Undeb y PCS, fel rhan o’r adolygiad cynhwysfawr o wariant, roedd Llywodraeth y DU yn ceisio i "symud gweithrediadau’r Gofrestrfa Tir i’r sector preifat o 2017" fel rhan o’r cynlluniau ar gyfer "gwerthiant asedau corfforaethol ac ariannol gwerth £5 biliwn pellach erbyn mis Mawrth 2020." Roedd hon yn ergyd fawr, o gofio bod Llywodraeth y glymblaid wedi gohirio cynlluniau i breifateiddio’r Gofrestrfa Tir ym mis Gorffennaf 2014, ar ôl ymgyrch hir dan arweiniwyd y PCS, a enillodd gefnogaeth aruthrol gan y cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr y gwasanaeth. Byddai unrhyw gynllun preifateiddio yn bygwth dyfodol y 400 o staff yn Abertawe, yn ogystal â’u cydweithwyr mewn mannau eraill.

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at Anna Soubry, y Gweinidog yn y DU sy’n gyfrifol am y Gofrestrfa Tir, i fynegi pryder ynghylch y bwriad i breifateiddio ac i’w hatgoffa am y diffyg cefnogaeth i’r cynllun preifateiddio blaenorol.

 

7. Bwriad i gau llysoedd yng Nghymru

Cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar am gynlluniau i gau 91 o lysoedd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys deuddeg yng Nghymru. Roedd cau llysoedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin a Phontypridd yn achosi problemau penodol o ran mynediad at gyfiawnder, a phroblemau posibl ar gyfer y staff. Disgwylid ymateb i’r ymgynghoriad cyn bo hir.

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, i fynegi pryder am yr agweddau mwyaf problemataidd ar y cynlluniau arfaethedig i gau llysoedd.

 

8. Toriadau o ran swyddi yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Yn dilyn cyhoeddiad yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant y byddai angen gwneud arbedion termau real o 19% erbyn 2019-20, cyhoeddodd y  Swyddfa Ystadegau Gwladol ei bwriad i wneud toriadau o 500 o swyddi (net) staff, a byddai’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu colli o’r safle yng Nghasnewydd. Er bod y rheolwyr yn disgwyl y byddai’r rhan fwyaf o staff yr effeithir arnynt yn cael eu colli drwy ymadael naturiol, cydnabuwyd hefyd ei bod yn debygol y bydd cynlluniau diswyddo ar waith, yn enwedig ar gyfer staff ar raddau is.

 

Cam i’w gymryd: Y Grŵp i ysgrifennu at y Prif Ystadegydd, i fynegi pryder am raddfa ac effaith bosibl y toriadau arfaethedig ar swyddi, ac i ofyn am ragor o fanylion ynghylch sut y byddai’r cam yn cael ei weithredu.